Would you benefit from a conversation about your role as an unpaid carer? Would you like to find out more about support available to improve your wellbeing?

Carers Trust South East Wales have started a trial project called Try Something New for six months, funded by RCT Council, to help unpaid carers aged 16 and over in RCT identify and achieve their wellbeing outcomes. Wellbeing Workers employed by Carers Trust South East Wales will have an in-depth conversation with you about what matters most to you and then work with you to identify ways to reach your goals. They may signpost you to local services; they can refer you for a formal Carer Conversation (carer assessment) if necessary; and they may be able to help with financial support to improve your wellbeing.

This trial project, which will run until the end of March 2022, hopes to find out more about how early support and identification may help unpaid carers access what they need at the right time.

The pilot project will last for 6 months from the start of October 2021 to the end of March 2022. The idea is to determine whether preventative support and early identification from a third sector organisation can improve support and intervention for unpaid carers and make it easier to ask for help.

To access this service, or if you have questions, please contact Carers Trust South East Wales on [email protected] or call 01656 336969.

 

GWASANAETH PEILOT NEWYDD I GYNHALWYR (GOFALWYR) DI-DÂL

Fyddai hi o fantais i chi i gael sgwrs am eich dyletswyddau gofal di-dâl? Hoffech chi ddysgu rhagor am y cymorth sydd ar gael i wella'ch lles?

Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr De Ddwyrain Cymru wedi cychwyn prosiect peilot chwe mis o'r enw 'Rhowch Gynnig ar Rywbeth Newydd'. Mae'r prosiect wedi'i ariannu gan Gyngor RhCT er mwyn helpu cynhalwyr (gofalwyr) di-dâl 16 oed a hŷn yn RhCT i nodi a chyflawni eu nodau lles. Bydd Gweithwyr Lles sy'n cael eu cyflogi gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr De Ddwyrain Cymru yn cael sgwrs fanwl gyda chi am yr hyn sydd bwysicaf i chi ac yna'n gweithio gyda chi i nodi ffyrdd o gyrraedd eich nodau. Efallai y cewch chi'ch cyfeirio at wasanaethau lleol; mae modd iddyn nhw eich atgyfeirio am asesiad ffurfiol os oes angen; ac efallai y bydd modd i chi gael cymorth ariannol i wella'ch lles.

O gynnal y prosiect peilot yma, a fydd yn dod i ben ddiwedd Mawrth 2022, y gobaith yw y bydd modd dysgu rhagor ynglŷn â sut gallai cymorth ac adnabod yn gynnar helpu cynhalwyr di-dâl i gael yr hyn sydd ei angen arnyn nhw mewn modd amserol.

Bydd y prosiect peilot yn para am 6 mis rhwng dechrau mis Hydref 2021 a diwedd mis Mawrth 2022. Y syniad yw penderfynu a all cymorth gan sefydliad trydydd sector (cymorth ataliol ac adnabod yn gynnar) wella'r cymorth a'r ymyrraeth i gynhalwyr di-dâl a'i gwneud hi'n haws gofyn am help.

I gael cymorth gan y gwasanaeth yma, neu ofyn cwestiwn, anfonwch e-bost i Ymddiriedolaeth Gofalwyr De Ddwyrain Cymru gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost yma: [email protected] neu ffonio 01656 336969.