English

Gwybodaeth ar gyfer cleientiaid neu deuluoedd



Os ydych chi neu rywun yr ydych chi’n ei gefnogi yn ei chael yn anodd deall yr hyn sy’n cael ei ddweud am eich/ei anghenion gofal a chefnogaeth a dydych chi ddim yn sir beth i’w wneud nesaf, yna mae’n bosibl y gallai eiriolaeth eich helpu chi.

Beth yw eiriolaeth?

Eiriolaeth yw cymryd camau i helpu pobl i ddweud beth maen nhw ei eisiau, sicrhau eu hawliau, cynrychioli eu buddiannau a chael y gwasanaethau y mae eu hangen arnynt.

Bydd eiriolwyr a chynlluniau eiriolaeth yn gweithio mewn partneriaeth gydag unigolion a byddant bob amser yn eu cynorthwyo a’u cefnogi.

Mae eiriolaeth yn hybu cynhwysiant cymdeithasol, cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol.

Yn ei hanfod, mae eiriolaeth yn ymwneud â chefnogi pobl i fod â llais, dewis a rheolaeth, ac i fynegi eu barn, dymuniadau a theimladau, yn wahanol i swyddogaeth y rhan fwyaf o weithwyr proffesiynol sy’n bennaf yn ceisio hybu budd gorau yr unigolyn.

Gall eiriolaeth ar waith:

Eich helpu i wybod a deall pa ofal, cymorth a chyfleoedd sydd ar gael i chi, neu eich cefnogi chi drwy’r broses Diogelu. Bydd eiriolwyr yn trafod pa gymorth y gallai fod ei angen arnoch, pryd y byddwch ei angen, ac ym mha ffordd yr ydych eisiau iddo gael ei roi i chi. Byddwn yn gweithio drwy’r gwahanol ddewisiadau sydd ar gael ac yn edrych ar y manteision a’r anfanteision neu ganlyniadau’r dewisiadau a wnaed, ond ni fyddwn yn dweud wrthych beth i’w wneud.

Bydd eiriolwyr bob amser yn gweithio gyda chi i sicrhau:

  • bod eich hawliau’n cael eu parchu,
  • bod gennych lais a rheolaeth,
  • eich bod yn cael eich cynnwys wrth wneud penderfyniadau sy’n effeithio ar eich bywyd,
  • bod eich amgylchiadau unigol yn cael eu hystyried,
  • eich bod yn gallu siarad dros eich hun neu os oes angen gallwn siarad ar eich rhan.

Yn anffodus, ni all Eiriolwyr addo y byddant yn gallu cael yr hyn yr ydych ei eisiau ond fe fyddwn yn gwneud ein gorau i sicrhau y gwrandewir ar eich barn.



Gwybodaeth i weithwyr proffesiynol

Rhaid i awdurdodau lleol ystyried a yw’n debygol y bydd unigolion yn cael eu rhwystro rhag gymryd rhan yn llawn wrth benderfynu ar eu canlyniadau lles.  

Bydd y rhwystrau allweddol yn cynnwys materion a sefyllfaoedd a fydd yn effeithio ar allu unigolion i wneud y canlynol:

  • deall gwybodaeth berthnasol,
  • cofio gwybodaeth,
  • defnyddio neu ystyried gwybodaeth,
  • cyfathrebu eu barn, dymuniadau a theimladau.

Os yw’n debygol y bydd rhywun yn cael eu rhwystro rhag cymryd rhan lawn yn ei ofal a’i gymorth yna mae’n rhaid i Awdurdodau Lleol ystyried a oes unigolyn priodol sy’n gallu hwyluso rhan yr unigolyn yn y broses asesu, cynllunio neu adolygu ac mae hyn yn cynnwys tair ystyriaeth benodol.

Ni all yr unigolyn priodol fod yn:  

  • rhywun nad yw’r unigolyn eisiau iddo ei gefnogi;
  • rhywun sy’n annhebygol o allu, neu fod ar gael i, gefnogi, yn briodol, rhan yr unigolyn;
  • rhywun sydd wedi ei gynnwys mewn ymchwiliad i gamdriniaeth neu esgeulustod y mae ei weithredoedd wedi dylanwadu ar benderfyniadau Awdurdod Lleol i ystyried camau Diogelu Oedolyn a Gorchymyn Cefnogi.

Mewn sefyllfa pan fo unrhyw un o’r meini prawf uchod yn berthnasol ac nad oes unigolyn priodol sy’n gallu cefnogi rhan yr unigolyn yna mae’n rhaid i Awdurdodau Lleol drefnu bod eiriolwr annibynnol proffesiynol yn hwyluso rhan yr unigolion hynny yn eu gofal a’u cymorth.