Taliadau uniongyrchol yw cronfeydd a ddarperir gan yr Awdurdod Lleol ar gyfer oedolion a phlant anabl sydd ag angen wedi’i asesu, a nodwyd gan y gwasanaethau cymdeithasol. Bwriedir y rhain ar gyfer pobl beth bynnag fo’r anabledd ond gall gynnwys yn benodol:

  • Rhieni plant ag anableddau corfforol a meddyliol.
  • Oedolion ag anawsterau dysgu a meddyliol.
  • Pobl hŷn ag anableddau corfforol.

Mae’r cronfeydd hyn yn caniatáu i bobl gael yr hyblygrwydd i gael gofal drwy gynorthwyydd personol (CP) neu asiantaeth gofal.

Mae taliadau Uniongyrchol hefyd yn caniatáu i bobl brynu amrywiaeth o wasanaethau, cyfarpar a gweithgareddau sy’n diwallu eich anghenion gofal.

Os ydych chi wedi’ch nodi yn un sydd angen Taliadau Uniongyrchol yn dilyn asesiad, bydd ein cynghorwyr profiadol yn:

  • Ymweld â chi ac yn egluro proses a dewisiadau Taliadau Uniongyrchol.
  • Darparu gwybodaeth am ein gwasanaeth recriwtio.
  • Egluro cyfrifoldebau cyflogi CP neu ddefnyddio asiantaeth.
  • Trafod cyllidebau
  • Egluro’r dewis o fancio wedi’i reoli neu becyn heb ei reoli (traddodiadol).


Defnyddio Asiantaeth Gofal

Mae Taliadau Uniongyrchol yn caniatáu i chi ddefnyddio asiantaeth gofal; busnesau annibynnol yw’r rhain sy’n darparu gofalwyr i ddefnyddwyr gwasanaethau nad ydynt yn dymuno cyflogi cynorthwy-ydd personol.

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i gael gofal gan asiantaeth neu sut i gysylltu â nhw, cysylltwch â’ch cynghorwr i gael rhestr lawn o asiantaethau yn eich Awdurdod Lleol.

Cynorthwy-ydd Personol

Drwy Daliadau Uniongyrchol, mae gennych y dewis o gyflogi cynorthwy-ydd personol (CP) i ddarparu eich holl anghenion gofal. Chi sy’n penderfynu pwy i’w gyflogi, pa un ai yw’n rhywun yr ydych yn ei adnabod neu rywun y gallwn ni ei recriwtio ar eich rhan.

Y syniad yw rhoi’r rhyddid i unigolion ddewis pwy y maen nhw eisiau eu cyflogi i helpu gyda’u hanghenion gofal.

Bydd pob cynorthwy-ydd newydd angen  gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) cyn dechrau. Bydd cynghorwr yn gallu helpu gyda’r broses hon.

I gael rhagor o wybodaeth am recriwtio ewch i’r adran recriwtio neu gysylltu â’ch cynghorwr dynodedig.

Eisiau gweithio fel CP?

Os ydych eisiau gweithio fel  cynorthwy-ydd personol drwy Daliadau Uniongyrchol, gallwch gofrestru eich manylion drwy’r ddolen ganlynol…..

Caiff eich manylion eu lanlwytho i’n bwrdd hysbysu er mwyn i ddefnyddwyr gwasanaethau eu gweld. Fel arall gallwch bori drwy swyddi presennol yn yr adran recriwtio.

Beth yw manteision gweithio fel CP?

Os ydych yn angerddol ynghylch cefnogi pobl, mae gweithio fel CP yn ffordd wych o fynd i mewn i’r diwydiant gofal.

Gall gweithio fel CP gynnig llawer o fanteision i chi:

  • Amrywiaeth o oriau gweithio – gan roi hyblygrwydd.
  • Nid oes angen profiad blaenorol, a gallwch ddysgu wrth weithio.
  • Rhoddir hyfforddiant am ddim
  • Gallwch weithio mewn mwy nag un swydd.
  • Gwneud amrywiaeth o weithgareddau yn y gymuned.
  • Yn rhoi boddhad.