Ein gweledigaeth English Rydym yn cydnabod dewis fel hawl sylfaenol ac yn credu y dylai fod gan bobl anabl y rhyddid i ddewis a chymryd rheolaeth o’u bywydau. Mae Dewis yn ymrwymedig i gefnogi pobl anabl, waeth beth fo’u hanabledd, ac eisiau hyrwyddo amrywiaeth a chydraddoldeb ledled Cymru. Ein gweledigaeth yw i gynnig cefnogaeth i bobl anabl, i’w helpu i gyflawni ffordd annibynnol o fyw drwy: · Greu cynllun cymorth i bobl ifanc a’u teuluoedd er mwyn cyflogi cynorthwywyr personol. · Creu cyfleoedd gwell o ran annibyniaeth pobl anabl. · Galluogi pobl anabl a’u teuluoedd i ddweud eu dweud. · Cynnig cefnogaeth i helpu pobl i gyflawni eu nodau a’u hamcanion personol. · Recriwtio, datblygu a hyfforddi gwirfoddolwyr, gan gynnig cyfleoedd gwell i bawb. · Datblygu gwasanaethau Dewis drwy weithio gyda phobl anabl. · Gwella ansawdd bywyd pobl drwy gynnig dewis. · Chwalu unrhyw rwystrau sy’n cyfyngu ar hyblygrwydd, dewis a rheolaeth. · Hyrwyddo amrywiaeth a chydraddoldeb i bawb. · Cefnogi pobl anabl i ymladd dros eu hawliau.