English

Hanes a chefndir

Crëwyd y sefydliad gwreiddiol ym 1996 fel Cwmni Cyfyngedig drwy Warant nid-er-elw. Fe’i dyluniwyd i weithredu fel sefydliad 3ydd parti sy’n cael ei redeg gan bobl anabl sy’n defnyddio ei wasanaethau. Ei nodau penodol oedd galluogi nifer fach o bobl anabl i gael dewis ynghylch pwy yw eu gofalwyr (cynorthwywyr personol), tra bod y Cwmni’n cyflogi’r cynorthwywyr personol.

Wedi i Daliadau Uniongyrchol ddod yn opsiwn yn Rhondda Cynon Taf o 2001, ymgymerodd y sefydliad â’r rôl ‘Gwasanaeth Cymorth’. Yn 2001 daeth yn C.B.A. (Canolfan Byw’n Annibynnol).

Fel Canolfan Byw’n Annibynnol, mae ganddi bwyllgor rheoli sy’n cynnwys pobl anabl, sy’n defnyddio ei gwasanaethau, a phobl nad ydynt yn anabl sy’n cefnogi ei hethos a’i gwerthoedd. Mae’r Pwyllgor Rheoli’n goruchwylio gwaith y staff ac yn helpu i ddatblygu polisïau’r dyfodol.

Mabwysiadodd y Sefydliad yr enw Canolfan Byw Annibynnol Dewis yn 2006. Dechreuodd ei waith a’i wasanaethau o gwmpas y Cynllun Cymorth Taliadau Uniongyrchol yn Rhondda Cynon Taf. O’r model gwreiddiol hwn mae wedi datblygu cynlluniau cymorth tebyg ym Merthyr Tudful ac yna ym Mhowys a Bro Morgannwg. Mae wedi ehangu dros y pum mlynedd ddiwethaf i Eiriolaeth, Hyfforddiant a gwasanaethau eraill sy’n hyrwyddo bywyd annibynnol.

Mae C.B.A. Dewis yn parhau’n sefydliad nid-er-elw ac wedi’i gofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau. Mae prif refeniw Dewis yn dod o’r Awdurdodau Lleol sy’n ariannu’r gwasanaeth y mae Dewis yn ei gynnig.