English

Hanes a chefndir

Sefydliad gwirfoddol yw Canolfan Byw Annibynnol (C.B.A.) Dewis sy’n gweithio yn Awdurdodau Lleol – Rhondda Cynon Taf, Bro Morgannwg, Merthyr Tudful, Caerdydd, Gwent (Casnewydd, Caerffili, Torfaen, Blaenau Gwent a Sir Fynwy), Wrecsam, Conwy, Sir Ddinbych a Sir Benfro. Mae’n gweithio mewn partneriaeth ag Adrannau Gwasanaethau Cymdeithasol pob un o’r awdurdodau hyn.

 

Crëwyd y sefydliad gwreiddiol ym 1996 yn Gwmni Cyfyngedig drwy Warant dielw. Bwriadwyd iddo weithredu fel sefydliad 3ydd parti wedi’i redeg gan bobl anabl a oedd yn defnyddio ei wasanaethau. Ei nodau penodol oedd caniatáu i nifer bach o bobl anabl gael dewis o ran pwy yr oeddent yn dymuno eu cael fel eu gofalwyr (cynorthwywyr personol) ac roedd y Cwmni yn cyflogi cynorthwywyr personol.

 

Wrth i Daliadau Uniongyrchol ddod yn opsiwn yn Rhondda Cynon Taf o 2001 ymlaen, dechreuodd y sefydliad swyddogaeth ‘Gwasanaeth Cymorth’. Yn 2001, daeth yn C.B.A. (Canolfan Byw Annibynnol).

 

Fel Canolfan Byw Annibynnol, mae ganddi bwyllgor reoli sy’n cynnwys pobl anabl sy’n defnyddio ei gwasanaethau a phobl nad ydynt yn anabl sy’n cefnogi ei hethos a’i gwerthoedd. Mae’r Pwyllgor Rheoli yn goruchwylio gwaith y staff ac yn helpu i ddatblygu polisïau’r dyfodol.

 

Mabwysiadwyd yr enw Canolfan Byw Annibynnol Dewis gan y Sefydliad yn 2006. Dechreuodd ei waith a’i wasanaethau ar ei Gynllun Cymorth Taliadau Uniongyrchol yn Rhondda Cynon Taf. O’r model gwreiddiol hwn, mae wedi datblygu cynlluniau cymorth tebyg ym Merthyr Tudful, yna Powys, ac ym Mro Morgannwg. Ehangodd dros y pum mlynedd diwethaf i feysydd Eiriolaeth, Hyfforddiant a gwasanaethau eraill sy’n hybu byw annibynnol.

 

Mae’n dal i fod yn sefydliad dielw ac mae wedi’i gofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau. Mae’n derbyn ei brif gyllid refeniw gan yr Awdurdodau Lleol sy’n derbyn gwasanaethau ganddo.