English

Aelodaeth o’r Sefydliad

Mae C.B.A. Dewis yn cynnig aelodaeth o’r sefydliad i holl ddefnyddwyr ei gwasanaethau sy’n cefnogi nodau ac ethos y Sefydliad. Mae aelodaeth ar gael hefyd i Gynorthwywyr Personol, er bod eu statws aelodaeth yn wahanol i un ei defnyddwyr gwasanaeth.

 

Mae aelodaeth o’r sefydliad yn caniatáu’r aelod i bleidleisio mewn cyfarfodydd blynyddol cyffredinol a chyfarfodydd cyffredinol eithriadol.

 

Gall unigolion sy’n ymaelodi gynnig eu hunain i gael eu hethol fel Ymddiriedolwr.

 

Os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch ag [email protected]

 

Swyddogaeth Ymddiriedolwr

Mae Canolfan Byw Annibynnol Dewis yn elusen gofrestredig ac felly mae ganddi Ymddiriedolwyr. Mae’r Ymddiriedolwyr yn gweithredu fel pwyllgor rheoli sy’n goruchwylio’r gwaith o redeg y sefydliad. Mae’r Prif Weithredwr yn atebol i’r Ymddiriedolwyr ac yn gyfrifol am reoli’r sefydliad o ddydd i ddydd. Mae’r Ymddiriedolwyr yn cyfarfod bob mis naill ai fel cyfarfod Ymddiriedolwyr rheoli llawn neu fel eu his-bwyllgorau Adnoddau Dynol neu Gyllid.

 

Fel sefydliad a arweinir gan ei ddefnyddwyr, mae cyfansoddiad y sefydliad yn pennu y dylai dwy ran o dair o Ymddiriedolwyr yr Elusen fod yn bobl anabl. Mae hefyd yn mynnu y dylai mwyafrif ei aelodau fod yn bobl anabl hefyd.

 

Mae 12 o Ymddiriedolwyr ar Bwyllgor Rheoli presennol yr Ymddiriedolwyr, ac mae 8 ohonynt yn ddefnyddwyr Taliadau Uniongyrchol.