English

Mae Canolfan Byw'n Annibynnol Dewis yn sefydliad elusennol sydd wedi ymrwymo i gynorthwyo pobl anabl, gan ganiatáu iddynt fyw'n annibynnol, a rhoi 'dewis' iddynt.

Crëwyd y sefydliad gwreiddiol ym 1996 fel Cwmni Cyfyngedig drwy Warant dielw. Fe'i cynlluniwyd i weithredu fel sefydliad trydydd parti sy'n cael ei redeg gan bobl anabl a oedd yn defnyddio ei wasanaethau. Yr amcanion penodol oedd caniatáu i nifer fach o bobl anabl gael dewis o ran pwy yr oeddent yn dymuno ei gael fel eu gofalwyr neu gynorthwywyr personol.

Mae ein gwasanaethau ymroddedig yn gwneud pob ymdrech i'w cynorthwyo gyda'r gofal a'r lles y maent yn eu haeddu, ac yn darparu Taliadau Uniongyrchol i'r Awdurdodau Lleol canlynol ledled Cymru:

  • Rhondda Cynon Taf
  • Bro Morgannwg
  • Caerdydd

Mae Dewis hefyd yn darparu gwasanaethau Eiriolaeth yn yr awdurdodau lleol canlynol:

  • Rhondda Cynon Taf
  • Casnewydd
  • Conwy a Sir Ddinbych
  • Sir Benfro
  • Powys
  • Gwent (Iechyd Meddwl yng Nghasnewydd, Caerffili, Torfaen, Sir Fynwy a Blaenau Gwent)

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag Adrannau Gwasanaethau Cymdeithasol pob un o'r awdurdodau hyn. Ariennir gwasanaeth Eiriolaeth Gwent gan Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan.