English

Mae gen i 2 Gynorthwyydd Personol (Pauline a Sheila) i fy helpu gan fod gen i ganser y fron eilaidd ac wedi cael strôc ar fy ochr dde – rwyf i wedi defnyddio Taliadau Uniongyrchol gyda gwahanol gwmnïau ers dros 20 mlynedd. Rwyf i gyda CBA DEWIS ar hyn o bryd, ac maen nhw’n wych yn fy helpu gydag unrhyw ymholiad sy’n codi.

 

Rwy’n cael 14.5 awr bob wythnos gan Gyngor Caerdydd, sy’n talu’r arian cyfatebol, bob mis, i gyfrif banc ar wahân y gwnes i ei agor i Gyngor Caerdydd.

 

Mae Pauline yn gweithio 6.5 awr bob wythnos i fy helpu i gael cawod, ymolchi, ac mae’n paratoi fy mrecwast, yn mynd â fi i apwyntiadau, yr optegydd, y deintydd, clinig podiatreg ac Ysbyty Felindre, a siopa achlysurol.

 

Mae Sheila yn gweithio 8 awr bob wythnos: mae hyn i fy helpu i gael cawod, ymolchi, ac mae’n paratoi fy mrecwast, yn mynd â fi i apwyntiadau, yr optegydd, y deintydd, clinig podiatreg ac Ysbyty Felindre, a siopa achlysurol.

 

Rwy’n llenwi taflen amser fisol ar gyfer pob Cynorthwyydd Personol y mae CBA DEWIS yn ei darparu i mi - ar ddiwedd bob mis, rwy’n ffonio CBA DEWIS i roi’r oriau iddyn nhw, ac maen nhw wedyn yn anfon y 2 anfoneb ar gyfer y Cynorthwywyr Personol ataf i drwy’r post.

 

Rwy’n talu fy Nghynorthwywyr Personol ar-lein wedyn, ac yna’n llenwi taflenni amser y mis nesaf ac ati.

 

Rwy’n rhoi’r dderbynneb fisol i fy Nghynorthwywyr Personol ac mae gen i gopi i mi fy hun - rwy’n staplo pob derbynneb i’r daflen amser fisol honno